Luis Suárez
Fe fydd gwrandawiad disgyblu ymosodwr Lerpwl ac Wrwgwái Luis Suárez yn parhau heddiw.

Mae Suárez wedi’i gyhuddo o gamymddwyn trwy frathu amddiffynnwr Yr Eidal Giorgio Chiellini yn ystod gêm yng Nghwpan y Byd ym Mrasil.

Doedd dim modd i banel FIFA ddod i benderfyniad ar dynged y chwaraewr dadleuol neithiwr ac fe ddaeth cadarnhad gan Gymdeithas Bêl-Droed Wrwgwái y byddai’r gwrandawiad yn parhau heddiw.

Mae cyfreithiwr Suárez wedi cyhuddo rhai o wledydd Ewrop o drin yr ymosodwr yn annheg ac o arwain ymgyrch yn ei erbyn.

Lloegr a’r Eidal yn benodol sydd wedi dod o dan y lach.

Maen nhw hefyd wedi cyhuddo rhywrai o olygu’r llun fel ei fod yn edrych fel pe bai Suárez wedi brathu’r chwaraewr.

Mae disgwyl i Suárez ddarganfod beth fydd ei dynged cyn gornest ei wlad yn erbyn Colombia ddydd Sadwrn.

Gallai canlyniad y gwrandawiad hefyd effeithio ar gytundeb noddi’r chwaraewr gydag adidas.

Mae un o swyddogion FIFA wedi galw am drin yr achos yn yr un modd ag y bydden nhw’n ymdrin ag achos o boeri, sy’n arwain at waharddiad am chwe gêm.

Ond mae eraill, gan gynnwys rhai o uwch-swyddogion FIFA yn galw am gosb fwy hael.

Ymhlith y cosbau mwyaf llym mae gwaharddiad am 24 o gemau neu waharddiad o ddwy flynedd o bob lefel o bêl-droed.

Fe allai hanes Suárez o frathu ac o gael ei hun mewn trafferthion olygu ei fod yn cael ei gosbi’n llymach.

Yn y gorffennol, cafodd waharddiad o 10 gêm am frathu amddiffynnwr Chelsea Branislav Ivanovic a saith gêm am frathu chwaraewr PSV Otman Bakkal.

Mae seren Wrwgai yng Nghwpan y Byd 1950, Alcides Ghiggia wedi beirniadu’r seren gyfoes, gan ddweud nad yw’n “iawn yn feddyliol”.

Dywedodd Ghiggia: “Dydy’r boi yma ddim yn iawn yn feddyliol. Dydy hynny jyst ddim yn rhywbeth ry’ch chi’n ei wneud ar y cae.

“Rwy’n credu y gallai Fifa osod sancsiynau arno.

“Mae e wedi’i wneud e o’r blaen yn Lloegr ac mae e wedi’i wneud e eto nawr. Mae’n annormal.

“Gêm bêl-droed yw hi, nid rhyfel na ffrwgwd.”