Doedd partneriaeth o 56 rhwng Chris Cooke a Darren Sammy ddim yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i Forgannwg yn erbyn Swydd Hampshire yn Stadiwm Swalec.

Collodd y Cymry o chwe rhediad wrth iddyn nhw gwrso 171 i ennill ar noson boeth yng Nghaerdydd, ond mae’n debyg y bydd Morgannwg yn edrych yn ôl ar y cyfnod clatsio a sylweddoli y dylen nhw fod wedi cael dechreuad gwell i’r batiad.

Y Cyfnod Clatsio

Tri rhediad yn unig ddaeth oddi ar belawd agoriadol yr ornest i Swydd Hampshire, wedi’i bowlio gan gapten Morgannwg, Jim Allenby o ben afon Taf ac roedd hi’n amlwg o’r dechrau bod digon o gymorth i’r bowlwyr i’w gael yn y llain.

Roedd digon o gymorth i Michael Hogan o ben Heol y Gadeirlan yn yr ail belawd hefyd, wrth iddo ildio dau rediad yn unig i gadw’r pwysau ar yr ymwelwyr.

Ond dechreuodd y clatsio yn y drydedd belawd, wrth i belen gyntaf Allenby gael ei thynnu am bedwar gan y batiwr agoriadol rhyngwladol llaw chwith, Michael Carberry cyn iddo gael gafael ar y belen nesaf a’i tharo’n syth dros ben y bowliwr i gefn yr eisteddle.

Ar ei noson olaf yng nghrys Morgannwg, cafodd Darren Sammy ei gyflwyno i’r ymosod yn y bedwaredd belawd gyda chyfanswm yr ymwelwyr yn 16-0, a bu bron iddo fowlio a baglu Carberry gyda iorcer oddi ar y belen gyntaf.

Ond talodd Carberry y pwyth yn ôl a tharo Sammy am bedwar i gyfeiriad y cwtsh cyn i belen wag olygu bod gan yr agorwr gyfle am ergyd rydd, ond methodd â manteisio wrth gael ei iorcio unwaith eto, yr ymwelwyr bellach yn 24-0.

Newidiodd Hogan i ben afon Taf yn y bumed pelawd ond parhau i glatsio wnaeth Carberry, gan daro’r drydedd belen am chwech dros ben yr Awstraliad, cyn i James Vince ymuno yn yr hwyl a’i dynnu am bedwar.

Byrhoedlog fu’r hwyl i Vince, wrth i’r belen nesaf ddarganfod dwylo diogel y maeswr agos ar ochr y goes, Will Owen, a chyfanswm yr ymwelwyr yn 36-1.

Troi at y troellwr ifanc Andrew Salter wnaeth Morgannwg yn y chweched, a chamsyniad costus oedd hwnnw.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Carberry gael gafael ynddo, ei ail belen yn cael ei tharo’n syth dros ei ben am chwech cyn i’r belen nesaf gael ei gyrru trwy’r cyfar am bedwar.

Daeth chwech arall cyn diwedd y belawd, wrth i Carberry anelu’i ergyd yn syth ar ochr y goes a’r ymwelwyr wedi gwibio i 53-1 ar ddiwedd y cyfnod clatsio.

Troelli oedd tacteg Swydd Hampshire hefyd wrth i Forgannwg ddechrau ar eu cyfnod clatsio nhw, gyda Will Smith yn agor o ben afon Taf ac ildio tri rhediad.

Ond bowliwr cyflym llaw chwith, Chris Wood agorodd o ben Heol y Gadeirlan a chanfod ymyl bat Allenby ddwywaith o’r bron, wrth i’r bêl wibio i’r un cyfeiriad i’r ffin, a Morgannwg yn 14-0 ar ddiwedd yr ail belawd.

Kyle Abbott fowliodd y drydedd ac atal llif y rhediadau wrth i Forgannwg ychwanegu pedwar at eu cyfanswm i gyrraedd 18-0.

Tynnodd Allenby belen gynta’r bedwaredd belawd gan Wood i’r ffin cyn gyrru’r belen nesaf drwy’r cyfar am bedwar arall.

Ond doedd Jacques Rudolph (5) ddim mor ffodus, ac fe gafodd ei fowlio wrth geisio gyrru’r bêl oddi ar ei goesau, a Morgannwg bellach yn 27-1.

Parhaodd Abbott yn y bumed ac ildio un rhediad yn unig mewn pelawd dynn i roi ychydig o bwysau cynnar ar Forgannwg, oedd wedi llithro i 28-1.

Y bowliwr cyflym Matt Coles fowliodd belawd ola’r cyfnod clatsio gan ildio pedwar i’r ffin gan Allenby, y Cymry’n 32-1 wedi chwe phelawd, 21 o rediadau ar ei hôl hi.

Y pelawdau canol

Daeth Will Owen i’r ymosod o ben afon Taf yn y seithfed belawd a chael ei glatsio am chwech oddi ar belen ola pelawd oedd fel arall yn dynn, wrth i’r ymwelwyr symud ymlaen i 62-1.

Dangosodd Allenby ffydd yn Salter ond parhau wnaeth ei ddiflastod yn yr wythfed belawd, ei belen gyntaf yn cael ei gyrru trwy’r cyfar gan Carberry am bedwar.

Cyrhaeddodd Carberry ei ganred cyn diwedd y belawd oddi ar 34 o belenni, wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 70-1.

Troelli oedd tactegau Morgannwg yn y nawfed hefyd, wrth i’r troellwr llaw chwith Dean Cosker gael ei gyflwyno o ben afon Taf.

Cafodd hwnnw ei glatsio ar unwaith am bedwar gan Jimmy Adams oedd, tan hynny, wedi cadw cwmni’n dawel i Carberry.

Ond daeth tro Carberry cyn diwedd y belawd wrth iddo daro Cosker yn syth dros ei ben am chwech arall cyn i Adams ychwanegu pedwar a chwech arall at gyfanswm Swydd Hampshire o 92-1 ar ôl naw o belawdau.

Dychwelodd Sammy i fowlio o ben Heol y Gadeirlan yn y degfed pelawd a rhoi ychydig o bwysau ar yr ymwelwyr unwaith eto, gan ildio pedwar rhediad yn unig – Swydd Hampshire yn 96-1 hanner ffordd trwy’r batiad.

Daeth ail wiced yn yr unfed belawd ar ddeg, wrth i Carberry (59) gam-yrru pelen gan Will Owen yn syth i ddwylo Stewart Walters ar ochr y goes, ond doedd hynny ddim o reidrwydd yn newyddion da i Forgannwg chwaith, wrth i gawr y T20, Glenn Maxwell o Awstralia gamu i’r llain.

Tarodd Adams bedwar oddi ar Owen i lawr ochr y goes cyn diwedd y belawd, wrth i gyfanswm yr ymwelwyr gyrraedd 103-2.

Dychwelodd Allenby i fowlio’r ddeuddegfed, gan ildio chwe rhediad wrth i dactegau’r ymwelwyr symud yn weledol o glatsio i adeiladu partneriaeth, a chyrraedd 109-2.

O’r cyflym i’r troellwr Cosker yn y drydedd ar ddeg a chafodd ei daro ar ochr y goes ac wedyn yn syth gan Adams am ddau chwech o’r bron wrth i’r ymwelwyr ymestyn eu cyfanswm i 124-2.

Gyda’r pwysau’n ôl ar y batwyr, syndod oedd gweld Salter yn dychwelyd o ben Heol y Gadeirlan ond wnaeth e ddim siomi wrth i’w belen gyntaf lanio yn nwylo Stewart Walters ar y ffin ochr agored i anfon Maxwell yn ôl i’r cwtsh, a Swydd Hampshire bellach yn 124-3.

Cyrhaeddodd Adams ei hanner canred oddi ar 24 o belenni cyn diwedd y belawd wrth i Sean Ervine o Zimbabwe ymuno ag e wrth y llain gyda chyfanswm yr ymwelwyr yn 127-3 wedi 14 o belawdau.

Cafodd Cosker ei ddisodli gan Owen yn y bymthegfed ond bowliodd hwnnw belen lydan oddi ar ei ail belen cyn gwasgaru ffyn Adams (52) gyda phelen syth a chyflym, yr ymwelwyr yn 132-4 gyda phum pelawd yn weddill.

Troi at y troellwr llaw chwith Danny Briggs wnaeth Swydd Hampshire yn y seithfed belawd ac fe gafwyd gwaedd am stympiad yn erbyn Mark Wallace oddi ar belen lydan i ddechrau’r belawd, ond gwrthod yr apêl wnaeth y trydydd dyfarnwr.

Ond doedd dim amheuaeth fod Allenby allan yn ddiweddarach yn y belawd, wedi’i ddal gan y wicedwr Adam Wheater am 23, a Morgannwg yn 38-2 wedi saith pelawd.

Y troellwr Will Smith fowliodd yr wythfed belawd o ben Heol y Gadeirlan a chael ei glatsio gan Mark Wallace i’r ffin ar ochr y goes.

Tro Briggs oedd hi i ddioddef yn y belawd nesaf wrth i Wallace daro pedwar a Morgannwg yn cyrraedd 55-2.

Matt Coles fowliodd y degfed ac ildio pedwar rhediad wrth i’r pwysau gynyddu ar y Cymry oedd wedi cyrraedd 59-2 hanner ffordd trwy’r pelawdau.

Tarodd Wallace bedwar oddi ar Briggs yn yr unfed belawd ar ddeg cyn i Walters ei dynnu am bedwar trwy ochr y goes wrth i gyfanswm Morgannwg gyrraedd 71-2.

Sean Ervine gymerodd le Coles o ben Heol y Gadeirlan a chael ei daro am chwech gan Wallace oddi ar ei belen gyntaf wrth i’r Cymry ddechrau sylweddoli maint y dasg o’u blaenau, ac fe ddilynodd chwech arall gan y batiwr-wicedwr wrth iddo dynnu pelen lac i gyfeiriad y cwtsh.

Ond daeth llwyddiant i Ervine cyn diwedd y belawd, wrth iddo fowlio Wallace (38), a Morgannwg yn 87-3 oddi ar ddeuddeg o belawdau.

Y troellwr Will Smith fowliodd y drydedd belawd ar ddeg ac ildio chwe rhediad, gan adael nod o 78 oddi ar saith pelawd i Forgannwg.

Daeth llwyddiant eto i Swydd Hampshire ym mhelawd nesaf Coles, wrth i Wood ddal Walters ar y ffin yn dilyn ergyd yn syth i’r awyr, a Morgannwg yn llithro eto i 94-4.

Roedd hi’n 96-5 cyn diwedd y belawd, wrth i Ben Wright anelu gwyriad i gyfeiriad y wicedwr Wheater, gan olygu bod y dorf ar fin gweld Darren Sammy yn batio yn lliwiau Morgannwg am y tro olaf – Morgannwg yn 98-5 gyda chwe phelawd yn weddill.

Tarodd Chris Cooke belen gynta’r bymthegfed am bedwar trwy’r cyfar oddi ar Briggs i adael nod o 66 oddi ar 30 o belenni ola’r batiad.

Y pelawdau clo

Y capten Allenby fowliodd yr unfed belawd ar bymtheg wrth i gyfradd sgorio’r ymwelwyr barhau i arafu.

Bu bron i Adam Wheater daro pedwar ar ochr y goes ar ddechrau’r belawd, ond cafodd y rhediadau eu hatal diolch i faesu campus gan Hogan ar y ffin, a’r ymwelwyr yn 140-4 ar ddiwedd y belawd.

Sammy ddychwelodd i fowlio’r ail belawd ar bymtheg o ben afon Taf a chafodd ei dynnu am bedwar gan Wheater cyn i ymgais i’w stympio gan Mark Wallace gael ei gyfeirio at y trydydd dyfarnwr – ond roedd y batiwr yn ddiogel am y tro, ei lwc yn parhau wrth i’w ergyd nesaf lanio’n ddiogel o flaen Owen ar ymyl y cylch.

Gyda chyfanswm yr ymwelwyr yn 149-4 gyda thair pelawd yn weddill, y bowliwr dibynadwy Hogan ddychwelodd o ben Heol y Gadeirlan.

Daliodd ei afael ar ergyd syth i’r awyr gan Ervine wrth i’r ymwelwyr golli eu pumed wiced gyda’r cyfanswm yn 150.

Gyda’r cyfanswm yn 151-5 a dwy belawd yn weddill o’r batiad, daeth y cyfle olaf i weld Sammy yn bowlio i Forgannwg ac fe gipiodd wiced Wheater, hwnnw’n darganfod Walters ar yr ochr agored, a’r ymwelwyr yn 158-6 gyda phelawd yn weddill.

Hogan gafodd y cyfrifoldeb o fowlio’r belawd olaf a bu bron i Cosker hawlio daliad y noson i gipio wiced Will Smith, ond disgynnodd y bêl o’i afael, a’r maeswr ar wastad ei gefn.

Tarodd Smith bedwar arall cyn diwedd y belawd a’r batiad wrth i’r ymwelwyr orffen ar gyfanswm o 170-6.

Coles fowliodd yr unfed belawd ar bymtheg i Swydd Hampshire ac roedd bwriad Darren Sammy yn glir o’r cychwyn, wrth iddo geisio clatsio ail belen y belawd ond fe wnaeth e ddarganfod gwaelod y bat cyn i’r belen nesaf ei basio i ddwylo’r wicedwr.

Ond fe ddangosodd ei nerth gyda’r belen nesaf, gan daro Coles yn syth yn ôl i’r ffin am bedwar cyn tynnu’r belen ganlynol am bedwar eto fyth wrth i Forgannwg gyrraedd 118-5 a’r nod yn 53 oddi ar 24 o belenni.

Aeth pelen gynta’r ail belawd ar bymtheg gan Wood yn syth am bedwar gan Cooke, cyn iddo fe dynnu i’r ffin i ychwanegu pedwar arall a tharo ergyd anferth i gyfeiriad yr afon am chwech, a Morgannwg yn 135-5 gan anelu am 36 oddi ar 18 o belenni i ennill.

Abbott fowliodd y ddeunawfed belawd dyngedfennol a chael ei daro am ddau chwech syth ac anferth gan Sammy i adael nod o 19 oddi ar y ddwy belawd olaf, a’r freuddwyd o fuddugoliaeth yn dechrau cael ei gwireddu.

Ond ffarweliodd Sammy (28) wrth geisio taro chwech arall oddi ar belen gynta’r belawd olaf ond un gan Wood, ond fe ddaeth o hyd i ddwylo diogel Jimmy Adams ar ymyl y ffin, y trydydd dyfarnwr yn anfon Sammy’n ôl i gwtsh y Swalec am y tro olaf.

Yn nwylo Cooke a Salter oedd tynged Morgannwg, felly, ac roedd angen 14 o rediadau oddi ar y belawd olaf i ennill – y cyfan oedd angen i Abbott ei wneud oedd cadw’r bowlio’n dynn o ben Heol y Gadeirlan.

Gorffennodd Morgannwg y batiad chwe rhediad yn brin, ar 164-6.