Suzy Drane, capten pel-rwyd Cymru
Mae Pêl-rwyd Cymru wedi cyhoeddi’r garfan a fydd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad fis nesaf.

Mae hyfforddwraig dros dro’r tîm, Laura Williams wedi disgrifio’r tîm fel “grŵp unedig o chwaraewyr sydd yn barod i gystadlu dros Gymru hyd eithaf eu gallu.”

Dywedodd capten y garfan, Suzy Drane: “Mae’n anrhydedd mawr i gael fy mhenodi fel capten o grŵp talentog a brwdfrydig iawn. Rydym yn mynd i Glasgow yn barod i berfformio ac ysbrydoli’r cefnogwyr di-ri sydd gennym yng Nghymru.”

Ychwanegodd Prif Swyddog Gweithredol Pêl-rwyd Cymru, Mike Watson: “Bydd Gemau’r Gymanwlad yn dangos y cyfoeth o dalent sydd gan Dîm Cymru i gynnig ac mae cryfder y garfan sydd yn cynrychioli Cymru yng Nglasgow yn gam mawr ymlaen i bêl-rwyd yng Nghymru.

“Rydym yn ymwybodol y bydd y garfan, gan gynnwys y tîm hyfforddi, yn gosod y safonau uchaf posib ac ar ran pawb sydd ynghlwm â phêl-rwyd yng Nghymru, hoffwn ddymuno pobl lwc i’r garfan.”

Tîm pêl-rwyd Cymru:

Suzy Drane, Cara Lea Moseley, Bethan Dyke, Nic James, Kyra Jones, Kelly Morgan, Billy Pritchard, Steph Myddelton, Nia Jones, Becky James, Chelsea Lewis, Leanne Thomas.