Mae Clwb Criced Brynbuga wedi dweud ar eu cyfrif Twitter eu bod nhw wedi gwneud cwyn ar ôl i lanast difrifol gael ei adael gan Swydd Berkshire yn ystafell newid y clwb.
Hyd yn hyn, dydy’r clwb ddim wedi derbyn ymddiheuriad.
Gorffennodd yr ornest rhwng y Saeson a Siroedd Llai Cymru yn gyfartal ddoe, yn dilyn perfformiad campus gan Aneurin Norman, oedd wedi sgorio 87 a 50 gyda’r bat, gan gipio tair wiced ym matiad yr ymwelwyr.
Ond yn dilyn yr ornest, cafodd llanast ei adael gan yr ymwelwyr, gan gynnwys plasteri gwaedlyd yn y cawodydd.
Ar ei gyfrif Twitter, dywedodd cadeirydd Clwb Criced Brynbuga, Mike Kear ei fod “yn grac â dweud y lleiaf”.
Wrth ymateb, dywedodd Siroedd Llai Cymru mewn sgwrs ar Twitter fod Swydd Berkshire “yn amlwg yn amharchus ar y cae ac oddi arno”.
Mae modd gweld llun o’r llanast yma.