Mae’r Gleision wedi cadarnhau heddiw fod Owen Williams wedi dioddef anaf difrifol i’w wddf a’i gefn.

Mewn datganiad dywedodd y rhanbarth ei fod wedi cael llawdriniaeth ar ddydd Llun a’i fod bellach yn gwella mewn ysbyty yn Singapore.

Cafodd Williams anaf i’w fertebra gyddfol a madruddyn ei gefn mewn twrnament 10 bob ochr dros y penwythnos.

Mae teulu’r chwaraewr yn parhau i fod wrth ochr ei wely yn ogystal â staff y Gleision a doctoriaid.

Ar hyn o bryd mae trefniadau’n cael eu gwneud i’w gludo adref unwaith y bydd hynny’n briodol.

Mae’r Gleision hefyd wedi diolch i’r cannoedd o bobl sydd wedi dymuno’n dda i Owen Williams ers ei anaf, sydd wedi bod yn rhannu’r hashnod #StayStrongForOws ar Twitter.

Maen nhw hefyd yn gofyn i bobl barchu preifatrwydd teulu Owen Williams, ac yn dweud na fyddan nhw’n gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd.