Mae’r grwpiau yng Nghwpan y Byd yn dod tua’u terfyn, gydag ond dau ddiwrnod o chwarae ar ôl nes y bydd hanner y timau’n ffarwelio â Brasil eleni.

Fe Owain Schiavone, Iolo Cheung a Rhys Evans sydd yn ôl i drafod hynt a helynt y gemau dros yr wythnos diwethaf, wrth i’r tri drafod ai hon yw’r Cwpan y Byd mwyaf cyffrous erioed.

Maen nhw hefyd yn bwrw golwg dros y grwpiau unigol, gan drafod pwy sydd wedi sefyll allan a phwy sydd wedi siomi yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Ac wrth gwrs, does dim mod osgoi’r eliffant yn yr ystafell – neu ai siarc ddylai hwnnw fod? – sef y digwyddiad syfrdanol ddoe pan roedd hi’n ymddangos fel petai Luis Suarez wedi brathu gwrthwynebwr am y trydydd tro.

Beth ydi’r cam nesaf i FIFA tybed? Am ba mor hir ddylai Suarez gael ei wahardd petai’n cael ei ganfod yn euog? Ddylai hyn gynnwys gemau i’w glwb, Lerpwl, hefyd?

Yn olaf, mae’r tri yn trafod rhai o’r straeon doniol a thwymgalon sydd wedi codi o Gwpan y Byd hyd yn hyn – mwynhewch!