Thomas Hawthorn yw’r prif enw yng ngharfan reslo Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad fis nesaf.
Mae Hawthorn, 18 mlwydd oed, yn cystadlu yn y categori pwysau 74kg. Roedd ei frawd hyn, Brett Hawthron, yn rhan o garfan reslo yng Ngemau’r Gymanwlad yn Delhi yn 2010.
Yn ymuno a Hawthorn mae Craig Pilling, a fydd yn cystadlu yn y categori pwysau 57kg. Bydd Pilling, aelod mwyaf profiadol y tîm, yn cystadlu am yr ail waith yng Ngemau’r Gymanwlad.
Yn cystadlu yn y categori pwysau 61kg bydd Damion Arzu, sydd hefyd yn cystadlu am yr ail waith yng Ngemau’r Gymanwlad.
Bydd aelod lleiaf profiadol y tîm, Oliver Cole, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng Ngemau’r Gymanwlad ar ôl iddo ennill medal efydd yng nghystadleuaeth Dull Rhydd Prydeinig yn 2014.
Sarah Connolly yw’r unig fenyw i gael ei henwi yn y tîm. Ar ôl dechrau’i gyrfa fel chwaraewr jiwdo, fe drosglwyddodd Connolly’n llwyddiannus i reslo ar ôl ennill y fedal aur ym mhencampwriaeth Agored Prydain ym 2009.
‘Tîm cymharol brofiadol’
Meddai Chris Jenkins, Prif Weithredwr Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru,
“Rydym yn falch iawn o fod yn gallu dewis tîm cymharol brofiadol i gystadlu yng Nglasgow. Mae tri o’r garfan am gystadlu yn eu hail Gemau Gymanwlad.”
Cynhelir Gemau’r Gymanwlad yng Nglasgow rhwng Gorffennaf 23 a Awst 3.
Tîm Reslo Cymru
Thomas Hawthorn, Craig Pilling, Damoion Arzu, Oliver Cole, Sarah Connolly.