Bydd Pwyllgor Cynllunio Ceredigion yn penderfynu ym mis Awst a fydd cynlluniau arfaethedig i ailddatblygu Stadiwm Pêl-droed Aberystwyth gwerth £13 miliwn yn mynd yn eu blaen.
Mae’r cynlluniau wedi wynebu nifer o anawsterau yn ddiweddar gyda phreswylwyr yn mynegi pryderon ynglŷn â ffin y datblygiad yn ymestyn i mewn i’r maes parcio tu ôl i’r stadiwm, sydd gyferbyn a chartrefi’r trigolion.
Bydd y rhan fwyaf o’r cyllid ar gyfer yr ailddatblygiad yn dod gan Gymdeithas Tai Ceredigion, a oedd yn bwriadu dymchwel prif eisteddle ac adeiladu bloc pedwar-llawr o fflatiau ar hyd y cae a thu hwnt a chodi eisteddle newydd.
Yn ogystal â hyn, mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys cae 3G, a fydd ar gael at ddefnydd y gymuned.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau nos Fawrth, pan gyflwynwyd cynlluniau manwl am y tro cyntaf. Mae Tai Ceredigion yn pwysleisio mai dim ond pump lle fydd yn cael eu colli yn y maes parcio.
Bydd y cynlluniau yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Cynllunio Ceredigion ym mis Awst.
Mae ymestyn y cynlluniau i’r maes parcio yn hanfodol i lwyddiant y fenter ac mae yna bryderon na fydd y cynlluniau yn dal dŵr yn ariannol heb gymeradwyaeth y cynllun.
Os bydd y cynlluniau yn cael eu cymeradwyo, mae disgwyl i’r gwaith ddechrau ym mis Hydref.
Bydd hyn yn golygu y bydd Aberystwyth yn chwarae eu gemau cartref ar Barc Latham yn y Drenewydd – 44 milltir i ffwrdd.
Mae’n debygol y bydd y clwb yn rhedeg bws am ddim i’r gemau hyd nes bydd y gwaith wedi’i gwblhau.