Suarez yn dal ei ddanedd ar ôl y digwyddiad (llun: AP/Ricardo Mazalan)
Cafwyd moment mwyaf syfrdanol Cwpan y Byd hyd yn hyn neithiwr wrth i Luis Suarez gipio’r penawdau eto – am FRATHU gwrthwynebwr am y trydydd tro.

Goliau’r gŵr o Uruguay oedd yn denu’r sylw i gyd nos Iau, wrth iddo anfon Lloegr adref yn gynnar o’r gystadleuaeth.

Ond ddoe fe welwyd ochr hyll yr ymosodwr unwaith eto, wrth iddo ymddangos fel petai wedi brathu amddiffynnwr yr Eidal, Giorgio Chiellini, ar ei ysgwydd bron i ddeg munud o ddiwedd y gêm.

I rwbio halen yn y briw, fel petai, fe sgoriodd Diego Godin unig gôl y gêm ddwy funud yn ddiweddarach, gan anfon Uruguay drwyddo a’r Eidal adref.

Roedd yr Eidalwyr eisoes i lawr i ddeg dyn ers i Claudio Marchisio weld cerdyn coch ar ôl awr o chwarae.

Ond fe fydd y penawdau i gyd am Suarez a’i foment o wallgofrwydd.

Wrth i’r ddau ddod at ei gilydd yn y cwrt cosbi, roedd hi’n edrych fel petai Suarez wedi suddo’i ddannedd i mewn i ysgwydd Chiellini, cyn i hwnnw daflu’i benelin allan i’w daro i ffwrdd.

Wrth i’r ddau ddisgyn i’r llawr roedd Suarez yn dal ei ddannedd – er iddo ddweud ar ôl y gêm fod Chiellini wedi’i daro yn ei lygad.

Cododd Chiellini a dangos y marc brathiad honedig i’r dyfarnwr, a wnaeth ddim ar y pryd. Ond mae FIFA nawr wedi dweud y byddwn nhw’n ymchwilio i’r achos, gyda’r disgwyl y bydd ymosodwr Uruguay yn wynebu gwaharddiad hir iawn petai’n cael ei ganfod yn euog.

Hon yw’r trydydd tro iddo wynebu trafferth o’r fath, ar ôl cael gwaharddiad o 10 gêm y llynedd ar ôl brathu Branislav Ivanovic o Chelsea tra’n chwarae i Lerpwl.

Yn 2010, fe wnaeth rhywbeth tebyg tra’n chwarae i Ajax, gan dderbyn gwaharddiad hir am frathu Ottman Bakkal o PSV ar ddiwedd gêm.

Nid hwn yw’r tro cyntaf iddo fod yn ffigwr dadleuol yng Nghwpan y Byd chwaith – yn 2010, fe lawiodd y bêl yn fwriadol er mwyn stopio Ghana rhag sgorio yn y munud olaf, gydag Uruguay yn eu trechu ar giciau o’r smotyn yn y diwedd i gyrraedd y rownd gynderfynol.

Lloegr allan yn llipa

Mae’n bosib iawn y bydd Lloegr yn ddiolchgar am y sylw mae Suarez wedi denu, wrth iddyn nhw orffen eu hymgyrch Cwpan y Byd yn reit llipa gyda gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Costa Rica.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd, gyda Daniel Sturridge yn methu rhai gorau Lloegr, ac mae’r canlyniad yn golygu mai Costa Rica sydd yn gorffen ar frig y grŵp.

Yn yr hanner cyntaf … na, dydach chi ddim wir eisiau clywed mwy am y gêm yma, ydach chi? Mwy am Suarez, ia?

Wel, yn syth ar ôl y gêm, wrth siarad â’r wasg Eidalaidd, fe awgrymodd Chiellini nad oedd y dyfarnwyr a FIFA’n awyddus i gosbi sêr mawr fel Suarez am nad oedden nhw eisiau iddyn nhw fod yn absennol o’r twrnament.

Gwylia dy hun, Chiellini, mi fyddwn nhw ar dy ôl di nesaf!

Groeg yn ei chipio hi

Roedd yna dipyn o gyffro ar y cae yng Ngrŵp C hefyd wrth i Roeg fachu lle yn y rownd nesaf gyda chic o’r smotyn ym munud olaf y gêm yn erbyn Traeth Ifori.

Fe aeth Groeg ar y blaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf ar ôl 45 munud ble roedden nhw wedi edrych yn llawer gwell na’r Iforiaid, wrth i Andreas Samaris fanteisio ar gamgymeriad gan Cheick Tiote.

Ond daeth Traeth Ifori nôl yn yr ail hanner, a chydag ychydig dros chwarter awr i fynd fe rwydodd ymosodwr Abertawe Wilfried Bony i ddod a’i dîm yn gyfartal.

Byddai’r canlyniad hwnnw wedi sicrhau mai Traeth Ifori oedd yn cyrraedd y rownd nesaf yn hytrach na Groeg, ond wedyn yn yr amser ychwanegol am anafiadau fe gafodd Groeg gic o’r smotyn dadleuol.

Fe aeth Giorgios Samaras i lawr ar ôl iddi ymddangos fod Giovanni Sio wedi’i faglu – ond wrth wylio nôl ar y camerâu roedd yn edrych fel petai wedi baglu’i hun, a doedd yna fawr o gyffyrddiad gan Sio arno.

Ta waeth, fe gododd Samaras a rhwydo’r gic o’r smotyn, gan anfon y Groegiaid i’r rownd nesaf ble byddwn nhw’n wynebu Costa Rica. Pwy ddychmygodd un o’r rheiny un yr wyth olaf ar ddechrau’r twrnament? Peidiwch â malu.

Yn syth ar ôl y gêm fe ymddiswyddodd rheolwr yr Iforiaid Sabri Lamouchi … be, ‘da chi eisiau mwy am gêm Uruguay a’r Eidal?

Iawn – yn syth ar ôl y gêm honno fe ddywedodd rheolwr yr Eidal Cesare Prandelli ei fod o am ymddiswyddo hefyd.

Colombia’n gyfforddus

Fe sicrhaodd Colombia mai nhw fyddai’n ennill Grŵp C gyda buddugoliaeth hawdd o 4-1 dros Siapan, gyda Juan Cuardado’n sgorio’r gyntaf cyn i Shinji Okazaki unioni’r sgôr.

Yn yr ail hanner, fe rwydodd Jackson Martinez ddwy i wneud y canlyniad yn saff, ac fe ychwanegodd James Rodriguez un hefyd … iawn oce, mwy am Suarez i chi.

Mae rheolwr Uruguay Oscar Tabarez eisoes wedi amddiffyn ei ymosodwr, gan ddweud nad oedd o wedi gweld y digwyddiad eto, bod “pethau llawer pwysicach i’w drafod na hyn” a’i fod yn “darged i rai cyfryngau’n benodol”.

Mae papurau newydd Uruguay hefyd yn cyhuddo’r Saeson o redeg ymgyrch yn ei erbyn, gan ddweud nad oes digon o sylw wedi cael ei roi i ergyd i wyneb Suarez yn hanner cyntaf y gêm.

Dim ymddiheuriad yn fanno felly.

Mae ei glwb, Lerpwl, hefyd wedi bod yn ddistaw, ar ôl cyhoeddi adroddiad byr o’r gêm ar eu gwefan ond anwybyddu’r frathiad honedig. Does dim stori o’r fath ar eu gwefan bellach, er bod adroddiad o sut wnaeth eu Saeson nhw a Kolo Toure gyda Thraeth Ifori. Tybed beth fydd eu hymateb nhw?

Gemau heddiw

Bosnia-Herzegovina v Iran (5.00yp)

Nigeria v Ariannin (5.00yp)

Ffrainc v Ecuador (9.00yh)

Swistir v Honduras (9.00yh)

Pigion eraill


Barry'n cael brathiad
Cafwyd achos arall o frathu annisgwyl yng Nghwpan y Byd neithiwr, ond mae’n annhebygol y bydd golwr Traeth Ifori, Boubakar Barry, yn wynebu gwaharddiad hir am beth wnaeth o.

Wedi dweud hynny, mae’n sicr yn cadarnhau’r rhagfarn ynglŷn â golwyr eu bod nhw ychydig yn wallgof – jyst drychwch ar beth wnaeth o i ddathlu gôl ei dîm neithiwr:

Gan droi’n sylw ni nawr at golwr arall nodweddiadol yng Ngrŵp C neithiwr, y tro hwn Faryd Mondragon o Golombia.

Fe ddaeth y golwr i’r maes gyda phum munud yn weddill o’u buddugoliaeth – ac wrth wneud hynny, torri record Roger Milla am y chwaraewr hynaf erioed yng Nghwpan y Byd.

Mae’r golwr newydd droi’n 43 oed, a’r tro diwethaf iddo chwarae yng Nghwpan y Byd oedd nôl yn Ffrainc 1998 – er ei fod yn y garfan ar gyfer twrnament 1994 yn yr UDA!

Oce iawn, mi wnawn ni droi nôl at Suarez a’i ddrygioni – mae Lerpwl wedi rhyddhau eu cit newydd ar gyfer y tymor nesaf.