Wilfried Bony
Aeth Côte d’Ivoire allan o Gwpan y Byd neithiwr ar ôl colli o 2-1 yn erbyn Groeg neithiwr.
Sgoriodd ymosodwr Abertawe, Wilfried Bony gôl i unioni’r sgôr ar ôl 74 o funudau, wedi i Andreas Samaris roi’r Groegwyr ar y blaen wedi 42 o funudau.
Ond collodd tîm Bony yn dilyn penderfyniad dadleuol y dyfarnwr i roi cic o’r smotyn i Roeg yn y trydydd munud a ganiatawyd am anafiadau.
Roedd awgrym nad oedd Georgios Samaras wedi cael ei gyffwrdd gan yr amddiffynnwr Giovanni Sio cyn disgyn yn y cwrt cosbi, ond sgoriodd Samaras y gic o’r smotyn wnaeth sicrhau na fyddai Côte d’Ivoire yn cyrraedd yr 16 olaf.
Yn dilyn yr ornest, cyhoeddodd rheolwr Côte d’Ivoire, Sabri Lamouchi ei fod yn rhoi’r gorau i’w swydd.
Ar ei dudalen Facebook y bore ma, mynegodd capten Abertawe a Chymru, Ashley Williams ei siom fod Bony a’i wlad allan o Gwpan y Byd.
Dywedodd: “Gôl wych gan Wilfried Bony neithiwr, wrth eu taro nhw i mewn fel mae e wedi’i wneud drwy’r tymor i Abertawe! Mor anlwcus i beidio mynd drwodd i’r 16 olaf gyda Côte d’Ivoire.”
Trosglwyddiadau
Yn y cyfamser, mae’r Elyrch wedi bod yn brysur wrth arwyddo chwaraewyr newydd.
Ddoe, teithiodd ymosodwr Bafetimbi Gomis i’r ddinas i drafod telerau ei gytundeb gyda’r clwb ac mae disgwyl i’r clwb gyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo’r Ffrancwr yn rhad ac am ddim heddiw.
Penderfynodd adael Lyon yn Ffrainc ar ddiwedd ei gytundeb.
Mae’r ansicrwydd am ddyfodol Bony a Michu yn parhau, gydag adroddiadau’n awgrymu bod rhai o glybiau mwyaf Ewrop wedi mynegi diddordeb i arwyddo’r ymosodwyr.
Ond mae Abertawe wedi dweud eu bod yn disgwyl i Bony a Gomis arwain yr ymosod ar y Liberty y tymor nesaf.
Ymhlith y chwaraewyr ifanc, mae disgwyl i seren tîm dan 17 Cymru, Daniel James symud i’r Liberty o Hull.
Mae Abertawe’n barod i dalu degau o filoedd am y chwaraewr canol cae 16 oed i’w ddenu i academi’r clwb.
Gallai Hull dderbyn hyd at £72,000 am y chwaraewr disglair wrth i Abertawe geisio cryfhau eu hacademi yn y gobaith o ennill statws un.
Mae gan yr academi statws tri ar hyn o bryd.