Mae teulu chwaraewr y Gleision a Chymru, Owen Williams wedi teithio i Singapore lle mae’r chwaraewr yn yr ysbyty, wedi dioddef anaf difrifol i’w wddf.

Cafodd y canolwr 22 oed ei anafu tra’n chwarae i dîm y Gleision yn erbyn Dreigiau Pacific Asia mewn cystadleuaeth 10 bob ochr.

Does dim manylion wedi cael eu cyhoeddi am ei anaf, ond mae disgwyl iddo fod yn yr ysbyty am gryn amser eto.

Yn dilyn yr anaf, dywedodd y Gleision mewn datganiad: “Hoffai’r rhanbarth gymryd y cyfle i ddiolch i gefnogwyr am eu negeseuon o gefnogaeth.

“Bydd y Gleision yn cyhoeddi diweddariadau pellach pan fyddan nhw ar gael.”

Mae Williams yn cael ei ystyried yn un o chwaraewyr mwyaf addawol rygbi Cymru ac mae’r chwaraewr, sydd wedi bod yn rhan o gynllun datblygu’r Gleision, wedi ennill pedwar cap dros Gymru ar ôl iddo ennill ei gap cyntaf yn erbyn Siapan yr haf diwethaf.

Collodd y Gleision y gêm am y trydydd safle 26-17 yn erbyn y Dreigiau Pacific Asia.