Mae Clwb Rygbi Caerloyw wedi penodi cyn-hyfforddwr amddiffyn y Scarlets John Muggleton yn hyfforddwr amddiffyn.
Mae’r Awstraliad yn ymuno â thim hyfforddi newydd sydd wedi’i arwain gan gyn-faswr Iwerddon, David Humphreys, gafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Rygbi fis diwethaf yn lle’r Cymro Nigel Davies.
Yn y gorffennol, bu Muggleton yn hyfforddwr amddiffyn Awstralia ac roedd yn aelod o’r tîm hyfforddi ar gyfer Cwpan y Byd yng Nghymru yn 1999.
Yn cwblhau’r tîm hyfforddi mae cyn-hyfforddwr tîm dan 20 Lloegr, Nick Walshe, sy’n ymuno fel hyfforddwr yr olwyr a’r ymosod.
Walshe oedd hyfforddwr tîm dan 20 Lloegr oedd yn fuddugol yng Nghwpan y Byd.
Dywedodd Prif Weithredwr Caerloyw, Stephen Vaughan: “Mae gan John lu o wybodaeth am amddiffyn.
“Mae ganddo fe lu o brofiad ar y lefel uchaf ac rydyn ni wrth ein bodd fod gyda ni rywun o’i safon e.”