Bydd y chwaraewr amryddawn o India’r Gorllewin, Darren Sammy yn chwarae ei gêm olaf i Forgannwg heno.
Mae Sammy yn dychwelyd i’w famwlad i gynrychioli Zouks St Lucia yn Uwch Gynghrair y Caribi (CPL), ac fe fydd cyfle i’w weld e yng nghrys Morgannwg am y tro olaf pan fydd Swydd Hampshire yn teithio i Stadiwm Swalec heno.
Mae Swydd Hampshire yn yr ail safle yn y tabl, er iddyn nhw golli i Forgannwg yn Southampton ar ddechrau’r gystadleuaeth.
Mae Morgannwg yn bedwerydd yn y tabl, er iddyn nhw golli i Swydd Surrey o 17 rhediad nos Wener diwethaf.
Wrth edrych yn ôl ar ei gyfnod byr yng Nghymru, dywedodd Sammy wrth wefan AllOutCricket ei fod yn bryderus am strwythur criced yng Nghymru a Lloegr.
Dywedodd: “Mae’n brofiad gwahanol yng nghriced y siroedd. Mae rhan fwya’r gemau’n cael eu chwarae ar nos Wener.
“Fel y gwyddom ni, mae’r T20 yn gêm gyflym ac yn y rhan fwyaf o dwrnameintiau dwi wedi chwarae ynddyn nhw, mae gyda chi fwy neu lai diwrnod neu ddau rhwng y gemau.
“Gall aros chwe diwrnod fod yn her. I fi, dim ond yn y T20 dwi’n chwarae.
“Mae’n rhaid i fi ddod o hyd i ffyrdd eraill o lenwi fy amser.
“Dwi’n credu bod y bobol sy’n gyfrifol am gyfarwyddo’r twrnament hwn – ynghyd â Phencampwriaeth y Siroedd, y gemau undydd a’r T20 – yn ceisio dod o hyd i’r cydbwysedd cywir.
“Am wn i, dyma’r gorau allen nhw ei ddyfeisio.
“Ond mae argaeledd chwaraewyr rhyngwladol yn cyfyngu ar y sylw sy’n cael ei roi i’r twrnament – mae’n amser hir i ymroi i dwrnament fel hwn.
“Mae’n golygu pum gêm o fewn mis felly mae’n anodd ymroi i hynny.”
Carfan 13 dyn Morgannwg: J Rudolph, J Allenby (capten), M Wallace, C Cooke, S Walters, B Wright, D Sammy, G Wagg, A Salter, D Cosker, M Hogan, R Smith, W Owen
Carfan 12 dyn Swydd Hampshire: W Smith, J Adams, J Vince (capten), D Briggs, M Coles, G Maxwell, O Shah, S Ervine, M Carberry, C Wood, A Wheater, K Abbott