Gorffennodd yr ornest rhwng Swydd Gaerloyw a Morgannwg yn ail adran y Bencampwriaeth yn gyfartal ar y diwrnod olaf ym Mryste, gan achub y tîm cartref.

Rhedodd Morgannwg allan o amser i gipio’r wicedi oedd eu hangen i ennill o fatiad.

Sgoriodd Swydd Gaerloyw 391 yn eu batiad cyntaf, oedd yn cynnwys canred gan y capten, 77 i’r batiwr agoriadol ifanc Will Tavare a 51 i Ian Cockbain.

Y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan oedd seren fowlio Morgannwg (4-57), wrth iddo gipio’i ganfed wiced dosbarth cyntaf i Forgannwg – yr ail gyflymaf yn hanes y sir i gyrraedd y garreg filltir honno.

Wrth ymateb, sgoriodd Morgannwg eu cyfanswm uchaf erioed ym Mryste a’u pumed cyfanswm uchaf erioed ar unrhyw gae – 615-7, gyda chanred yr un i Jacques Rudolph (139) a Ben Wright (123).

Rhannodd Rudolph a Will Bragg (67) bartneriaeth wiced gyntaf o 151, ac wedyn fe rannodd Rudolph a Wright bartneriaeth o 158.

Sgoriodd Jim Allenby a Ruaidhri Smith 57 yr un, ac fe ychwanegodd Chris Cooke 52 at gyfanswm y Cymry.

Gyda blaenoriaeth o 224 ac 89 o belawdau’n weddill ar y diwrnod olaf, penderfynodd Morgannwg gau’r batiad, gan adael dwy sesiwn a mwy i gipio’r 10 wiced am y fuddugoliaeth.

Ond diolch i fatio dygn batwyr Swydd Gaerloyw, llwyddon nhw i achub yr ornest, gan orffen ar 165-5.

Gallwch weld y sgorfwrdd llawn yma.