Gareth Bale ar Bier Penarth Llun: Penarth News
Cafodd trigolion Penarth ychydig o syndod ddoe – ar ôl taro mewn i bêl-droediwr drytaf y byd yn ymarfer ei sgiliau ar bier y dref!
Roedd Gareth Bale yno gyda chriw ffilmio yn paratoi darn ar gyfer BT Sport, gyda’r seren o Gaerdydd wrthi’n dangos ei sgiliau pêl.
Doedd dim modd mynd i ben y pier ble’r oedd Bale a’r criw yn ffilmio, ond fe gasglodd torf yno gan gynnwys llawer o gefnogwyr pêl-droed a merched yn eu harddegau oedd yn gobeithio am lofnod a llun, yn ôl gwefan Penarth News.
Ac ni wnaeth Bale eu siomi, gan stopio i sgwrsio gyda rhai o’r dorf yn ystod ei ymweliad â’r pier.
Roedd seren Real Madrid yn gwisgo crys llwyd a jîns, gyda’i wallt yn ôl mewn band, wrth iddo ffilmio’r darn oedd yn cynnwys ateb ei ffôn a chwarae triciau â’r bêl.
Mae Bale nôl yng Nghymru am rywfaint o saib ar ôl tymor hir gyda Real Madrid, ar ôl iddo arwyddo’r haf diwethaf am swm record byd o £86m.
Y tymor hwn mae wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda’i glwb newydd, ond tra bod llawer o’i gyd-chwaraewyr i ffwrdd ym Mrasil yng Nghwpan y Byd mae’r Cymro wedi manteisio ar gyfle i ddychwelyd adref am sbel.
Yn ddiweddar roedd yn un o’r gwesteion ym mhriodas Aaron Ramsey, gyda’r pêl-droedwyr Chris Gunter, Craig Bellamy a Theo Walcott hefyd yn bresennol.