Mae criw o bobol wedi dringo i gopaon tri mynydd dros gyfnod o dridiau, gan godi dros £52,000 at elusen yn enw’r diweddar gricedwr Tom Maynard.
Fe ddechreuodd yr Her Tri Chopa i 50 o bobol, gan gynnwys nifer o gyn-gricedwyr, ddydd Gwener (Hydref 11) ar droed Ben Nevis yn yr Alban.
Ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 12), fe wnaethon nhw ddringo i gopa Scafell Pike yn Ardal y Llynnoedd.
Ac fe ddaeth eu her i ben ar ben yr Wyddfa heddiw (dydd Sul, Hydref 13).
Mae’n golygu eu bod nhw wedi cerdded cyfanswm o 26 milltir, ac wedi dringo 3,407 metr i gyd, gan ymweld â thair gwlad dros y tridiau.
Maen nhw wedi codi mwy na £52,000 ar eu tudalen JustGiving, a’r holl arian yn mynd at Ymddiriedolaeth Tom Maynard ac Ymddiriedolaeth Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol.
Mae’r ddwy elusen yn helpu cricedwyr a chyn-gricedwyr yn ystod adegau anodd yn eu bywydau, ac yn addysgu cricedwyr ifainc a darpar-gricedwyr sut i gadw cydbwysedd rhwng eu gyrfaoedd a’u bywydau i ffwrdd o’r gêm.
Bu farw Tom Maynard yn 23 oed yn 2012, ac mae ei dad Matthew, prif hyfforddwr Clwb Criced Morgannwg, yn un o’r ffigurau mwyaf blaenllaw yn yr ymddiriedolaeth sy’n dwyn enw ei fab.