Mae’r RSPCA wedi mynegi pryder ar ôl i geffyl farw yn ras y Grand National yn Aintree neithiwr (nos Sadwrn, Ebrill 10).
Cwympodd The Long Mile, oedd yn cael ei farchogaeth gan Luke Dempsey.
Roedd ceffyl JP McManus, oedd yn cael ei hyfforddi gan Philip Dempsey, yn saith oed.
Bu farw dau geffyl dros benwythnos y Grand National, gyda Houx Gris wedi marw mewn ras gynharach.
Cafodd joci, Bryony Frost oedd yn marchogaeth Yala Enki, ei chludo i’r ysbyty am asesiad yn dilyn digwyddiad arall.
“Rydym yn drist dros ben ac yn gofidio o weld marwolaethau dau o geffylau, Houx Gris a The Long Mile, yn ystod cyfarfod tridiau’r Grand National eleni,” meddai llefarydd.
“Mae marwolaeth unrhyw geffyl bob amser yn un yn ormod ac mae’n hanfodol fod camau brys yn cael eu cymryd i leihau’r perygl o’r trasiedïau hyn.”
Roedd y brif ras yn un hanesyddol, gyda Rachael Blackmore, y Wyddeles, yn sicrhau mai joci benywaidd oedd yn fuddugol am y tro cyntaf erioed.