Mae gêm Bencampwriaeth gyntaf tîm criced Morgannwg yn erbyn Swydd Efrog yn Headingley wedi gorffen yn gyfartal.

Roedd y tîm cartref yn cwrso 379 i ennill ond roedden nhw’n 223 am bedair erbyn diwedd y diwrnod olaf wrth i’r ornest ddirwyn i ben.

Roedd Morgannwg yn 161 am bedair yn eu hail fatiad ar ddechrau’r diwrnod olaf, ac fe wnaethon nhw gau eu batiad ar 241 am bedair yn dilyn partneriaeth ddi-guro o 211 rhwng y capten Chris Cooke (102 heb fod allan) a Billy Root (110 heb fod allan).

Roedd Cooke wedi cyrraedd y garreg filltir oddi ar 213 o belenni, a Root oddi ar 217 o belenni, gyda’u partneriaeth yn record am y wiced honno yn erbyn Swydd Efrog.

Mae Morgannwg wedi cipio 14 o bwyntiau o’r ornest.

Cwrso

Roedd y nod yn un annhebygol i’r tîm cartref gyda chyn lleied o’r gêm yn weddill, ac fe wnaeth bowlio cywir Morgannwg sicrhau nad oedden nhw wedi gallu mynd amdani.

Cafodd Tom Kohler-Cadmore ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten wrth chwarae ergyd amddiffynnol, cyn bod Tom Loten â’i goes o flaen y wiced oddi ar fowlio Michael Hogan wrth i Swydd Efrog lithro i 32-2.

Cafodd Joe Root – oedd yn bowlio’n gynharach yn y dydd pan gyrhaeddodd ei frawd Billy ei ganred – ei ddal gan y Gwyddel Andy Balbirnie yn y slip oddi ar fowlio Dan Douthwaite, a sir y rhosyn gwyn erbyn hynny’n 47 am dair.

Ar ôl partneriaeth sylweddol o 131 gydag Adam Lyth (115 heb fod allan), cafodd Harry Brook ei ddal gan Billy Root oddi ar fowlio Michael Hogan am 60, ac yntau’n gwthio’n amddiffynnol ar yr ochr agored.

Roedd Brook wedi cyrraedd ei 50 oddi ar 60 o belenni, gyda Lyth yn cyrraedd ei garreg filltir yntau oddi ar 166 o belenni, ei 25ain canred dosbarth cyntaf erioed.

Eira ar y trydydd diwrnod

Adroddiad o’r ail ddiwrnod

Adroddiad o’r diwrnod cyntaf