Gyda’r tymor yn tynnu at ei derfyn ar hyd a lled Ewrop, sut hwyl a gafodd y Cymry arni’r penwythnos hwn?
Uwch Gynghrair Lloegr
Daeth canlyniad y penwythnos ar yr Etihad ddydd Sadwrn wrth i ddeg dyn Leeds guro Man City. Dwy gôl i un a oedd hi gyda Tyler Roberts yn dechrau eto yng nghanol cae.
Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Neil Taylor wrth i Aston Villa golli yn Lerpwl ac nid oedd Neco Williams yng ngharfan y tîm cartref.
Dyna a oedd hanes Wayne Hennessey wrth i Crystal Palace groesawu Chelsea nos Sadwrn hefyd. Er bod golwr Cymru yn ôl yn holliach, ymddengys mai trydydd dewis yw i’w glwb y tu ôl i Vicente Guaita a Jack Butland.
Golwr arall sydd wedi hen arfer cynhesu’r fainc yw Danny Ward a dyna a wnaeth eto ddydd Sul wrth i Gaerlŷr golli yn erbyn West Ham.
Roedd Dan James allan o garfan Man U ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn Tottenham ddydd Sul oherwydd anaf. Felly hefyd Ben Davies i’r gwrthwynebwyr ond fe wnaeth Joe Rodon ddechrau i Spurs ac fe gafodd Gareth Bale ddeg munud oddi ar y fainc wrth iddynt golli o dair gôl i un.
Sheffield United yn erbyn Arsenal a oedd y gêm hwyr nos Sul, gydag Ethan Ampadu yn dechrau yng nghanol yr amddiffyn i’r Blades. Nid yw West Brom Hal Robson-Kanu yn chwarae tan nos Lun.
*
Y Bencampwriaeth
Daeth rhediad gwael diweddar Abertawe i ben gyda buddugoliaeth swmpus oddi cartref ym Millwall ddydd Sadwrn. Yr unig newyddion drwg i gefnogwyr Cymru a oedd iddi ddod wrth i Connor Roberts golli ei le yn y tîm am y tro cyntaf y tymor hwn!
Gyda Steve Cooper yn parhau â’r arbrawf o chwarae pedwar yn y cefn, cafodd Kyle Naughton ei ffafrio fel cefnwr de a dim ond wrth iddo newid i system i dri yn y cefn gyda chwarter awr i fynd y daeth Roberts i’r cae fel ôl-asgellwr. Roedd eiliad fawr i Oli Cooper hefyd wrth iddo gael munud neu ddau oddi ar y fainc, ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Ben Cabango i’r Elyrch ac felly hefyd Tom Bradshaw i’r gwrthwynebwyr.
Mae gobeithion main Caerdydd o ymuno ag Abertawe yn y safleoedd ail gyfle fwy neu lai ar ben yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Blackburn. Aeth yr Adar Gleision ar y blaen ddwywaith, gyda Harry Wilson yn creu’r ddwy gôl, y gyntaf yn gic rydd daclus yn syth o’r cae ymarfer a Will Vaulks yn sgorio. Yn ogystal â Wilson a Vaulks, fe ddechreuodd Kieffer Moore ac roedd ymddangosiad byr oddi ar y fainc i Jonny Williams.
Dychwelodd Bournemouth i’r safleoedd ail gyfle gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Coventry. Mae adfywiad diweddar y Cherries yn cyd-fynd â dychweliad David Brooks o’i anaf a’r Cymro a rwydodd y drydedd o bedair gôl ei dîm yn y gêm hon. Parhau ar y fainc y mae Chris Mepham.
Yr unig Gymro arall i fod yn rhan o dîm buddugol yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn a oedd George Thomas. Daeth yr asgellwr oddi ar y fainc i greu pedwaredd gôl QPR yn erbyn Sheffield Wednesday.
Colli o ddwy i ddim a fu hanes Stoke ym Mirmingham, gydag Adam Davies, James Chester a Rhys Norringhton-Davies i gyd yn dechrau a Sam Vokes a Chris Norton yn dod oddi ar y fainc am y chwarter olaf. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Rabbi Matondo unwaith eto.
Ar ôl ennill yn Abertawe ddydd Llun, colli’n drwm a wnaeth Preston wrth iddynt groesawu Brentford ddydd Sadwrn. Pum gôl i ddim y sgôr terfynol wrth i Andrew Hughes a Ched Evans ddechrau’r gêm a Billy Bodin yn ymddangos oddi ar y fainc.
Colli o sgôr mwy parchus a wnaeth Tom Lawrence wrth i’w dîm herio’r tîm a fydd yn bencampwyr mewn cwpl o gemau, Norwich. Dechreuodd y Cymro fel ymosodwr yr wythnos hon wrth golli o gôl i ddim. Fe ddylai Derby fod yn ddiogel er gwaethaf y golled hon gan fod digon o fwlch rhyngddynt a’r tri gwaelod.
Ar waelod un y tabl y mae Wycombe ar ôl colli yn erbyn Luton. Nid oedd Joe Jacobson yn y garfan oherwydd anaf ond fe gafodd Alex Samuel ddeuddeg munud oddi ar y fainc. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Joe Morrell i Luton ac mae Tom Lockyer yn parhau i fod wedi’i anafu.
*
Cynghreiriau is
Arhosodd Casnewydd yn safleoedd ail gyfle’r Ail Adran er gwaethaf gêm gyfartal ym Mansfield nos Wener. Un gôl yr un a oedd hi gyda Liam Shephard, Aaron Lewis, Josh Sheehan a Joe Ledley yn dechrau i’r Alltudion.
Mae sawl Cymro yn y frwydr i gyrraedd gemau ail gyfle’r Adran Gyntaf. Mae Blackpool a Lincoln yn aros yn y safleoedd hynny yn dilyn gêm gyfartal y erbyn ei gilydd ddydd Sadwrn.
Aeth Blackpool ddwy gôl ar y blaen ond yn anffodus fe arweiniodd camgymeriad gan Chris Maxwell at gôl gyntaf Lincoln. Roedd ail yr Imps yn newyddion gwell i gefnogwyr Cymru wrth i gôl hwyr o ongl dynn gan Brennan Johnnson achub pwynt i’w dîm. Chwaraeodd Regan Poole i Lincoln hefyd.
Mae Charlton bwynt i ffwrdd o’r chwech uchaf ar ôl buddugoliaeth dda o ddwy gôl i un oddi cartref yn Sunderland. Chwaraeodd Adam Matthews y gêm gyfan a daeth Chris Gunter i’r cae fel eilydd i dynhau pethau’n amddiffynnol yn y deunaw munud olaf.
Yn dynn ar sodlau Charlton y mae Ipswich er gwaethaf gêm gyfartal yn erbyn MK Dons. Gwion Edward a ddaeth agosaf at sgorio i Ipswich ond gorffen yn ddi sgôr a wnaeth hi.
Daeth canlyniad mwyaf annisgwyl y dydd yn Doncaster wrth i’r tîm cartref golli rhagor o dir ar y safleoedd ail gyfle a chael cweir gan Wigan, a ddechreuodd y dydd yn ail o waelod y tabl. Chwaraeodd Matt Smith yng nghanol cae i’r tîm cartref ac felly hefyd Lee Evans i’r ymwelwyr ac mae Wigan bellach o fewn pwynt o ddianc o’r pedwar isaf.
Un o’r timau y cododd Wigan drostynt yw Bristol Rovers. Gêm gyfartal gôl yr un a gawson nhw yn erbyn Northampton gyda Cian Harries yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn.
Diweddglo digon diflas a fydd hi i weddill Cymry’r Adran Gyntaf y maen debyg gyda’u timau’n ddiogel yng nghanol y tabl. Cafodd un o’r rheiny, Fleetwood, fuddugoliaeth yn erbyn Rochdale ddydd Sadwrn, gyda chroesiad Wes Burns yn arwain at unig gôl y gêm, un i’w rwyd ei hun gan Eoghan O’Connell.
Dechreuodd Luke Jephcott am y tro cyntaf mewn pedair gêm wrth i Plynouth groesawu Hull ond nid oedd gôl i’r Cymro wrth i’w dîm golli o dair i ddim yn erbyn y tîm ar y brig.
*
Yr Alban a thu hwnt
Roedd talcen caled yn wynebu Hibs yn Uwch Gynghrair yr Alban ddydd Sul wrth iddynt deithio i Ibrox i herio’r pencampwyr, Rangers. Dechreuodd Christian Doidge i’r ymwelwyr ond cafodd ei eilyddio hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Parhau y mae rhediad gwael diweddar Dunfermline ym Mhencampwriaeth yr Alban. Gôl yr un a oedd hi wrth i dîm Owain Fôn Williams deithio i Ayr ddydd Sadwrn. Maent bellach heb ennill mewn pum gêm, wedi llithro i’r pumed safle yn y tabl ac mewn perygl o fethu’r gemau ail gyfle ar ôl treulio rhan helaeth o’r tymor yn y tri uchaf.
Nid oedd James Lawrence yng ngharfan ei dîm unwaith eto’r wythnos hon wrth i St. Pauli deithio i Erzgebirge ac ennill o dair gôl i un yn y 2. Bundesliga.
Cryfhaodd Juventus eu lle ym mhedwar uchaf Serie A gyda buddugoliaeth o dair gôl i un yn erbyn Genoa ddydd Sul ond roedd y gwaith caled wedi’i wneud ym mhell cyn i Aaron Ramsey ddod i’r cae fel eilydd gydag ychydig funudau’n weddill.
Yng Nghroatia ddydd Sul, nid oedd Robbie Burton yng ngharfan Dinamo Zagreb ond fe gafodd Dylan Levitt hanner awr fel eilydd i NK Istra wrth iddynt hwy golli o golli o gôl i ddim yn Split.
Roedd hi’n gyntaf yn erbyn ail ym mhrif adran Slofacia ddydd Sul wrth i Dunajska Streda groesawu Slovan Bratislava. Chwaraeodd Isaac Christie-Davies yr hanner cyntaf i’r tîm cartref cyn iddi orffen yn gyfartal, dwy gôl yr un.
Gwilym Dwyfor