Mae’r Cymro Ched Evans wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Preston tan haf 2023.

Ymunodd yr ymosodwr â’r clwb ar fenthyg o Fleetwood ym mis Ionawr, cyn gwneud y trosglwyddiad yn un parhaol drwy arwyddo cytundeb tan ddiwedd y tymor.

Ers hynny mae wedi sgorio tair gôl i Preston mewn 16 gêm, sydd wedi bod yn ddigon i berswadio’r clwb i’w gadw am y ddwy flynedd nesaf.

“Mi ddes i yma i gael dylanwad ac rwy’n teimlo fy mod wedi gwneud hynny a dw i’n falch iawn o’r ffordd y mae pethau wedi mynd, er y byddai mwy o fuddugoliaethau wedi bod yn well,” meddai wrth wefan swyddogol y clwb.

“Mae’r cyfleusterau’n anghredadwy yma a dw i’n hapus ac yn gobeithio sgorio mwy o goliau a chreu mwy o gyfleoedd.”