Mae Tom Sang wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Chaerdydd, a fydd yn ei gadw gyda’r clwb tan haf 2023.

Treuliodd y llanc 21 oed hanner cyntaf y tymor ar fenthyg yn League Two gyda Cheltenham Town, ond ers hynny mae wedi gwneud saith ymddangosiad i’r Adar Gleision yn y Bencampwriaeth.

O dan Mick McCarthy, mae Tom Sang wedi chwarae fel asgellwr cefn yn dilyn anafiadau i nifer o amddiffynwyr y clwb.

Ac mae wedi gwneud argraff yn ystod y gemau hynny, yn enwedig wrth i Gaerdydd guro Abertawe o 1-0 yn narbi de Cymru.

Wrth siarad yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl arwyddo ei gytundeb newydd, dywedodd Tom Sang: “Rwyf wedi cadw fy mhen i lawr a chario ’mlaen i weithio ac rwy’n hapus iawn fy mod am aros yma am y ddwy flynedd nesaf, a hyd yn oed mwy gobeithio.

“Cyn gynted ag y des i’n ôl o fod ar fenthyg, roeddwn i’n gwybod beth oedd fy ngwaith ac roeddwn i’n gwybod ble roeddwn i’n mynd i fod yn chwarae pe bai’r cyfle’n dod.

“Mae’n amgylchedd da iawn i fod ynddo.

“Hoffwn ddiolch i’r rheolwr am y cyfle ac am ymddiried ynof.”

Mick McCarthy wedi “gweld rhywbeth ynddo”

Ychwanegodd y rheolwr, Mick McCarthy: “Pan ddes i yma – gwelais rywbeth ynddo.

“Mae o’n llanc da iawn, yn gymeriad da, yn weithiwr caled, yn bêl-droediwr da, ac yn chwarae’n bositif ar y cae.

“Pan dw i wedi gofyn iddo chwarae fel asgellwr cefn oherwydd anaf Perry Ng, mae wedi bod yn wych. Mae wir wedi bod yn rhagorol.

“Mae’n haeddu’r cytundeb hwn.”