Mae Colin Baker, un o’r goroeswyr olaf o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, wedi marw yn 86 oed.

Gwnaeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn y rowndiau terfynol 1958 yn Sweden – yr unig dro i Gymru chwarae yng Nghwpan y Byd – mewn gêm grŵp 1-1 yn erbyn Mecsico yn Sandviken.

Daeth Baker, a aned yng Nghaerdydd, yn agos at sgorio wrth daro’r bar, cyn cae ei anafu ym munudau olaf y gêm.

Ni chwaraeodd eto yn Sweden wrth i Gymru gyrraedd y rowndiau gogynderfynol.

Aeth ymlaen i ennill saith cap dros Gymru gyda’i ymddangosiad olaf yn dod yn erbyn yr Alban ym mis Tachwedd 1961.

Buodd yn ffyddlon i Glwb Pêl-droed Caerdydd drwy gydol ei yrfa, gan chwarae 328 o weithiau i’r clwb rhwng 1953 ac 1966.

Ar ben hynny, llwyddodd i ennill dyrchafiad i Adran Gyntaf Lloegr gyda’r clwb yn 1959-60, yn ogystal ag ennill Cwpan Cymru ar bedwar achlysur.

“Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn drist o glywed bod cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Colin Baker, wedi marw’n heddychlon ddydd Sul 11 Ebrill,” meddai datganiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae meddyliau pawb yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru gyda theulu a ffrindiau Colin yn ystod y cyfnod anodd hwn.”