Mae Preston wedi arwyddo Ched Evans o Fleetwood ar fenthyg am weddill y tymor.

Mae Evans, sydd bellach yn 32 oed, wedi sgorio 37 gôl mewn 99 ymddangosiad i Fleetwood ers ymuno â’r clwb, ar fenthyg i ddechrau, o Sheffield Utd yn 2018.

Ond mae’r Cymro wedi cael gwybod y gall adael Fleetwood yn dilyn ffrae â’r rheolwr Joey Barton – sydd bellach wedi ei ddiswyddo – ac am resymau’n ymwneud â disgyblaeth.

Mae rheolwr Preston, Alex Neil, yn meddwl y bydd Evans yn rhoi dimensiwn ychwanegol i’w dîm wrth iddyn nhw geisio gwthio tuag at gemau ailgyfle Pencampwriaeth Sky Bet.

“Bydd yn ychwanegu cystadleuaeth ym mhen uchaf y cae,” meddai Neil ar wefan swyddogol y clwb.

“Mae Ched yn chwaraewr corfforol iawn; mae am ofalu am y bêl, mynd â hi i’w draed a’ch symud i fyny’r cae a sgorio goliau hefyd.

“Bydd cael cyfle yn y Bencampwriaeth yn beth cyffrous iawn iddo.

Bydd yn rhaid i Evans aros am ei ymddangosiad cyntaf yn Preston, gan nad yw’r blaenwr yn gymwys ar gyfer trydedd rownd Cwpan yr FA yn Wycombe.

“Rwy’n edrych ymlaen at y chwe mis nesa’, mae dychwelyd i’r Bencampwriaeth yn wych,” meddai Evans.

“Mae Preston North End yn glwb mewn sefyllfa wych ar hyn o bryd i gicio ymlaen am weddill y tymor.”