Mae Andy King, chwaraewr canol cae Cymru, wedi ymuno â chlwb Leuven yng Ngwlad Belg tan ddiwedd y tymor.

Enillodd e Uwch Gynghrair Lloegr gyda Leicester City, ac mae’r perchennog Aiyawatt Srivaddhanaprabha hefyd yn berchen ar glwb Leuven.

Chwaraeodd King 379 o weithiau i Leicester City cyn gadel yn yr haf.

Mae Leuven yn chweched yn Uwch Gynghrair Gwlad Belg.