Mae’r chwaraewr canol cae Kasey Palmer wedi dychwelyd i Bristol City ar ôl cyfnod ar fenthyg yn Abertawe.

Ymunodd e â’r Elyrch dros dro ym mis Hydref, a’r disgwyl oedd y byddai’n aros am weddill y tymor.

Ond roedd cymal yn y cytundeb y gallai ei riant-glwb derfynu’r cyfnod ar fenthyg

Mae Palmer, 24, wedi chwarae 12 o weithiau i’r Elyrch, gan sgorio ei unig gôl yn erbyn Stoke.