Gallai un o gemau prawf tîm rygbi’r Llewod yn erbyn De Affrica gael ei chynnal yng Nghaerdydd, yn ôl adroddiadau.

Yn dilyn y newyddion am amrywiolyn y coronafeirws, mae pryderon na fydd y tîm yn gallu teithio i Dde Affrica.

Gohirio’r daith tan y flwyddyn nesaf yw’r opsiwn arall dan ystyriaeth ar hyn o bryd, gyda’r gemau’n cael eu cynnal heb dorf ond fe fyddai hynny’n destun siom i’r 30,000 sy’n gobeithio teithio yno o wledydd Prydain ac i goffrau rygbi De Affrica.

Ond fe allai’r undebau unigol wrthwynebu hynny gan y byddai’n tarfu ar eu teithiau eu hunain fel rhan o’u paratoadau cyn Cwpan y Byd 2023.

Pe bai’r gyfres yn cael ei chynnal yng ngwledydd Prydain eleni, gallai’r gemau prawf gael eu cynnal yn Stadiwm Principality, Wembley, Twickenham neu Stadiwm Aviva yn Nulyn ac fe allai brechlyn olygu y bydd modd croesawu torf o ryw fath yn ôl i gemau.

Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn dweud ei fod yn “bryderus” iawn am yr amrywiolyn newydd sy’n deillio o Dde Affrica ac sydd wedi cyrraedd gwledydd Prydain.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol ynghylch taith y Llewod fis nesaf ac mae lle i gredu y bydd Sky Sports yn dylanwadu’n gryf ar y penderfyniad hwnnw gyda symiau mawr o arian darlledu yn y fantol.