Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi’i wahardd o’r ystlys am un gêm ac mae wedi cael dirwy o £2,000 yn dilyn cerdyn coch yn y gêm yn erbyn Wycombe.

Cafodd ei gosbi am ddefnyddio iaith sarhaus wrth siarad â swyddog ar Ragfyr 29.

Mae’r gosb yn golygu na fydd e ar yr ystlys ar gyfer y gêm yn erbyn Nottingham Forest yng Nghwpan FA Lloegr.