Mae Mark Jones, cyn-asgellwr tîm rygbi Cymru, wedi’i benodi’n is-hyfforddwr newydd Clwb Rygbi Caerwrangon.
Mae’n ymuno â’r clwb ar ôl i gyfyngiadau’r coronafeirws ei atal rhag dychwelyd i Seland Newydd, lle bu’n hyfforddi’r Crusaders a Canterbury.
Enillodd y Crusaders gynghrair Super Rugby Aotearoa o dan ei arweiniad y tymor diwethaf.
Enillodd e 47 o gapiau dros Gymru rhwng 2001 a 2009.
Bydd e’n gyfrifol am amddiffyn a chicio Caerwrangon yn ei rôl newydd.
Rhannu gweledigaeth
Yn ôl Mark Jones, mae ganddo fe a’r clwb yr un weledigaeth.
“Unwaith y daeth yn glir na fyddwn i’n gallu mynd yn ôl i Canterbury oherwydd sefyllfa’r cwarantîn, fe ddigwyddodd pethau’n gyflym iawn gyda’r Warriors,” meddai.
“Fe ges i wybod fod Alan Solomons yn chwilio am rywun i lenwi safle allweddol yn y tîm hyfforddi ac roedd gen i ddiddordeb.
“Mae gan y perchnogion uchelgais go iawn i gael twf cyson ond cynaladwy dros y blynyddoedd nesaf yn seiliedig ar gyfleusterau gwych, carfan ifanc â’r academi’n tanlinellu hynny, a meddylfryd flaengar oedd yn taro tant gyda fi.”