Mae dau o chwaraewyr allweddol tîm pêl-droed Casnewydd wedi cael eu galw’n ôl gan eu rhiant-glybiau.

Bydd yr amddiffynnwr canol Brandon Cooper yn dychwelyd i Abertawe yn sgil anafiadau i Ryan Bennett, Kyle Naughton a Joel Latibeaudiere.

Ac mae Scott Twine wedi’i alw’n ôl gan Swindon ar ôl sgorio chwe gôl mewn 18 gêm i’r Alltudion.

Mae Aaron Lewis, Bradley Webb a Saikou Janneh hefyd wedi dychwelyd i’w clybiau yn dilyn cyfnodau siomedig gyda Chasnewydd.

Ond mae Casnewydd wedi denu Owen Windsor ar fenthyg o West Brom tan ddiwedd y tymor.