Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bod Clwb Pêl-droed Penrhyn-coch allan o Gwpan Nathaniel.
Roedd y clwb wedi penderfynu peidio chwarae ei gêm gwpan yn erbyn Goetre Unedig fis diwethaf oherwydd gofid yn sgil pandemig y coronafeirws.
“Mae gennym ddyletswydd gofal i’n chwaraewyr, hyfforddwyr a staff yn ogystal â’n cymuned ehangach o Benrhyn-coch ei hun,” meddai datganiad gan y clwb ar ôl gohirio’r gêm.
Wrth ymateb i ddyfarniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru, dywedodd y clwb eu bod yn derbyn y penderfyniad ac yn “gwerthfawrogi” y ffaith na fyddan nhw yn cael dirwy.
“Hoffem ddymuno pob lwc i Goetre Unedig yn y rownd nesaf,” meddai’r datganiad.