Mae un o chwaraewyr tîm pêl-droed merched Cymru’n dweud ei bod hi’n “ystyried ymddeol o ddifri” yn dilyn y cyfyngiadau coronafeirws diweddaraf.

Yn ôl Helen Ward, sy’n chwarae fel ymosodwr i’r tîm cenedlaethol, bydd hi’n anodd cydbwyso’i holl gyfrifoldebau.

Dydy gêm y merched ddim yn destun yr un eithriadau â gêm élit y dynion.

Mae hynny’n golygu bod haenau 3-7 pyramid y merched, ac eithrio’r Uwch Gynghrair Elit, yn dod i ben, ynghyd â chlybiau talent merched a phob math o bêl-droed dan do ac awyr agored i oedolion a phlant.

“Dw i’n ystyried ymddeol o ddifri,” meddai Helen Ward ar Twitter.

“Dwi ddim yn sicr bod gen i ddigon ynof i barhau i ymarfer ar fy mhen fy hun, addysgu plentyn 6 oed gartref a diddanu plentyn 3 oed.

“Dim gobaith y galla i wneud y tri i gyd yn effeithiol.”

Ymateb

Yn ôl yr Athro Laura McAllister, sy’n ymgeisio am le ar Gyngor Gweithredol FIFA i gynrychioli Cymru, mae sylwadau Helen Ward yn “dweud y cyfan” am sefyllfa gêm y merched yng Nghymru.

“Mae hyn yn dweud y cyfan am yr anfanteision strwythurol mae athletwyr benywaidd yn eu hwynebu,” meddai ar Twitter.

“Mae chwaraewr o’r radd flaenaf, yn ddealladwy, yn cael yr holl lwyth yma’n amhosib i’w reoli.

“Mae’n ein hatgoffa ni oll efallai fod chwaraeon merched wedi dod yn bell, ond mae ffordd bellach fyth o’n blaenau.”