Mae adroddiadau bod John Mulvihill, prif hyfforddwr rhanbarth rygbi’r Gleision, wedi gadael ei swydd ar unwaith.
Ond mae’r rhanbarth yn gwrthod gwneud sylw ar hyn o bryd.
Y gred yw ei fod e wedi gadael am resymau personol, a hynny yn ystod ei drydydd tymor wrth y llyw.
Collodd y Gleision o 17-13 yn erbyn y Gweilch ar Ddydd Calan – eu chweched colled mewn 11 o gemau.
Bydd Richard Hodges, yr hyfforddwr amddiffyn, wrth y llyw yr wythnos hon.