Mae Boris Johnson wedi comisiynu adolygiad annibynnol i Greensill Capital, cwmni ariannol y bu David Cameron yn lobïo gweinidogion yn ei gylch.

Bydd yr ymchwiliad yn gweld sut y gwnaeth y cwmni sicrhau cytundebau gyda’r Llywodraeth, ac yn ymchwilio i weithredoedd y cyn-Brif Weinidog.

Mae David Cameron wedi derbyn y dylai fod wedi cyfathrebu gyda’r Llywodraeth “drwy’r ffyrdd mwyaf ffurfiol,” yn hytrach na thecstio’r Canghellor Rishi Sunak.

“Wedi adlewyrchu’n ddwys ar y mater,” dywedodd David Cameron ei fod yn derbyn bod “gwersi pwysig i’w dysgu.”

Y lobïo

Fe wnaeth David Cameron lobïo nifer o weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ran Greensill Capital – cwmni y mae’n gweithio iddyn nhw ers 2018.

Roedd yn ceisio sicrhau mynediad i’r cwmni at raglen fenthyca arian y Covid Corportate Financing Facility (CCFF), ac eisiau i’r cwmni allu gwneud benthyciadau o arian treth-dalwyr.

Cafodd y cynigion eu gwrthod gan y Trysorlys, a ni chafodd y cwmni fynediad at y rhaglen fenthyca

Fodd bynnag, cafodd y cwmni fynediad at filiynau o arian treth-dalwyr er mwyn rhoi benthyciadau o dan raglen arall – y Coronavirus Large Business Interruption Loan Scheme.

Yn ôl adroddiadau fe wnaeth David Cameron drefnu “diodydd preifat” gyda’r Gweinidog Iechyd Matt Hancock, a Lex Greensill, sefydlydd Greensill, er mwyn trafod y rhaglen fenthyciadau.

Aeth arian o’r rhaglen honno i’r Gwasanaeth Iechyd trwy Greensill Capital.

Greensill Capital oedd prif fenthycwr cwmni Liberty Steel, ac fe wnaeth Rishi Sunak ateb tecsts preifat gan Mr Cameron llynedd yn dweud ei fod wedi “gwthio” swyddogion i ystyried cynlluniau i helpu Greensill.

Disgrifiodd David Cameron y penderfyniad i beidio â chaniatáu mynediad i Greensill i’r CCFF fel un “nuts” mewn e-bost i uwch-gynghorydd Boris Johnson, a rhoddodd bwysau ar Rishi Sunak i ailystyried.

Yr adolygiad

Dywedodd Downing Street eu bod nhw’n lansio adolygiad annibynnol i Greensill, a aeth i ddwylo gweinyddwyr ym mis Mawrth, yn sgil “diddordeb sylweddol” yn y mater.

“Mae Swyddfa’r Cabinet yn comisiynu adolygiad annibynnol ar ran y Prif Weinidog, er mwyn dod i wybod mwy am ddatblygiad a defnydd o’r gadwyn arian, a gweithgareddau cysylltiedig yn y Llywodraeth, a’r rhan y gwnaeth Greensill chwarae yn hynny.

“Fel y gwyddoch, mae yna ddiddordeb sylweddol yn y mater, felly mae’r Prif Weinidog wedi galw am adolygiad er mwyn sicrhau fod y Llywodraeth yn hollol dryloyw am weithgareddau o’r fath, ac fel bod y cyhoedd yn gallu gweld a yw arian treth-dalwyr yn mynd at ddefnydd da.

“Bydd yr adolygiad annibynnol yn edrych ar sut cafodd y cytundebau eu sicrhau, a sut y gwnaeth cynrychiolwyr busnes gysylltu â’r Llywodraeth.”

Gwersi pwysig i’w dysgu

“Wrth gynrychioli’r cwmni, ni wnes i dorri’r cod ymddygiad na rheolau’r Llywodraeth,” meddai David Cameron mewn datganiad.

Dywedodd na wnaeth y Llywodraeth roi mynediad i Greensill at raglen y CCFF.

“Felly, fe wnes i ddilyn y rheolau, a ni wnaeth fy ymyrryd i arwain at newid yn agwedd y Llywodraeth tuag at y CCFF.

“Fodd bynnag, rydw i wedi adlewyrchu’n ddwys ar hyn. Mae gwersi pwysig i’w dysgu.

“Fel cyn-Brif Weinidog rydw i’n derbyn y dylid cysylltu gyda’r Llywodraeth drwy’r ffyrdd mwyaf ffurfiol yn unig, ac nad oes lle i gamddehongli.”

“Angen atebion nawr”

Mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod perygl i’r adolygiad wneud i bobol anghofio am y mater, yn hytrach na mynd i’r afael â’r digwyddiad.

“Mae’r holl nodweddion yn dangos bod y Ceidwadwyr yn ceisio cuddio beth sy’n digwydd,” meddai Rachel Reeves ar ran yr Wrthblaid.

“Fel yr ymchwiliad i’r honiadau bod Priti Patel yn bwlio gweithwyr, mae hyn yn ymdrech arall gan y Blaid Geidwadol i wneud i bobol anghofio am weithredoedd drwg.

“Rydym angen atebion ynghylch Greensill nawr – mae hynny’n golygu bod rhaid i David Cameron, Rishi Sunak, a Matt Hancock ymddangos o flaen y Senedd i ateb cwestiynau cyn gynted â phosib.”

Mae Gordon Brown, cyn-arweinydd y Blaid Lafur, wedi dweud na ddylai cyn-Brif Weinidogion lobïo’r llywodraeth “ar gyfer rhesymau masnachol”.

Awgrymodd y dylid creu deddf yn gwahardd lobïo am bum mlynedd, os nad yw’n bosib gweithredu ar y rheolau presennol.

“Ni allaf roi sylw i fanylion penodol, ond i fi mae yna werthoedd mewn gwasanaeth cyhoeddus – ni all fod yn blatfform i wneud enillion preifat,” meddai wrth Radio 4.

“Ni ddylai gweinidogion fyth lobïo, ni ddylai cyn-weinidogion na chyn-Brif Weindogion fyth lobïo am resymau masnachol. Ni ddylai gweinidogion presennol feithrin lobïo.

“Mae’n dod ag anfri ar wasanaethau cyhoeddus.”

Rhedeg llywodraeth mewn “ffordd hamddenol”

Mae’r ffrae wedi adlewyrchu diwylliant o “redeg llywodraeth mewn ffordd hamddenol,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Cysylltiadau’r Tŷ Cyffredin.

“Mae’n amlwg ei fod yn teimlo cywilydd mawr,” meddai Sir Bernard Jenkin am David Cameron.

“Ac i ryw raddau, mae’n adlewyrchu ar y ffordd hamddenol iawn yma o redeg llywodraeth a rhedeg gwlad, rhywbeth na wnaeth ddechrau gyda David Cameron.

“Dw i ddim yn credu bod y cyhoedd yn meddwl bod y ffordd anffurfiol iawn yma o fynd ati i drafod materion, a rhannu arian cyhoeddus, yn dderbyniol.”