Mae sefydlydd Liberty Steel wedi cyfaddef bod ar y cwmni “sawl biliwn” i gwmni gwasanaethau ariannol, Greensill Capital.
Mae Llafur a Phlaid Cymru wedi galw ar weinidogion i roi eglurder ynghylch dyfodol ffatrïoedd Liberty Steel yn y Deyrnas Unedig.
A’r wythnos hon awgrymodd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth San Steffan, Kwasi Kwarteng, bod dod â’r cwmni dan berchnogaeth gyhoeddus yn bosibilrwydd.
Mae rhiant gwmni y cwmni dur, GFG Alliance, yn cyflogi tua 5,000 o weithwyr yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys 136 yng Nghasnewydd, a 50 yn Nhredegar.
Ddechrau’r wythnos daeth i’r amlwg bod gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi gwrthod cais am £170m gan GFG Alliance.
Optimistiaeth
Yn siarad ar raglen Today BBC Radio 4 fore heddiw, mi rodd pennaeth Liberty Steel, Sanjeev Gupta, ddiweddariad o’r sefyllfa.
“Oherwydd yr anghydfod cyfreithiol sydd rhyngom ni allaf rannu manylion penodol,” meddai am y sefyllfa â Greensil Capital, ond ategodd bod y ffigur “yn sawl biliwn”.
Bu iddo gydnabod bod y sector dur yn wynebu heriau mawr gan gynnwys “costau uchel egni”, ond roedd yn ffyddiog am obeithion y cwmni ar y cyfan.
“Mae ein gweithgarwch rhyngwladol yn dod ag elw i ni,” meddai, “ac rydym wedi derbyn cynigion am gyllid. Byddwn yn derbyn cyllid ac mi fyddwn hefyd yn cefnogi busnesau yn y Deyrnas Unedig.
“Fydd dim un ffatri dur yn cau dan fy arweiniad i.”