Mae Cyn-Brif Weinidog yr Alban wedi gofyn i Nicola Sturgeon roi eu “gwahaniaethau personol i’r neilltu”, a chydweithio tuag at annibyniaeth.

Dywedodd Alex Salmond y byddai cael “mwyafrif anferth” sydd o blaid annibyniaeth yn y Senedd yn newid y cydbwysedd grym rhwng yr Alban a San Steffan.

Mae Boris Johnson wedi gwrthod galwadau Nicola Sturgeon i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban dro ar ôl tro.

Ond, pe bai “mwyafrif anferth” o Aelodau Seneddol sydd o blaid annibyniaeth yn cael eu hethol i Holyrood fis Mai, gyda chymorth Plaid Alba, byddai nifer o opsiynau posib, yn ôl Alex Salmond.

Awgrymodd y gallai’r Alban drefnu refferendwm eu hunain dan yr amgylchiadau hynny, neu ddechrau proses gyfreithlon yn erbyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig am atal y bleidlais.

Cyhoeddodd Alex Salmond wythnos diwethaf ei fod yn lansio plaid newydd – Plaid Alba – er mwyn ymgeisio ar y Rhestrau Rhanbarthol yn etholiad Holyrood.

“Gweithio er budd y genedl”

Mae Mr Salmond wedi gofyn i Nicola Sturgeon weithio gydag e er mwyn sicrhau annibyniaeth.

“Mae achos annibyniaeth lawer iawn yn fwy na phersonoliaethau,” meddai Alex Salmond wrth BBC Radio 4.

“Mae’n achos anferth i’r Alban, ac mae’n rhaid i bawb roi eu gwahaniaethau personol i’r neilltu, a gweithio er budd y genedl.”

Daw ei apel ychydig dros fis ar ôl iddo gyhuddo Nicola Sturgeon wrth roi tystiolaeth i’r pwyllgor oedd yn ystyried y ffordd y gwnaeth Llywodraeth yr Alban drin y cyhuddiadau o aflonyddu yn ei erbyn.

Ar y pryd, dywedodd fod “arweinyddiaeth yr Alban wedi methu”, a “nad oedd ganddo amheuaeth” fod Nicola Sturgeon wedi torri’r cod gweinidogol.

Yn ddiweddarach, daeth ymchwiliad annibynnol i’r canlyniad nad oedd Nicola Sturgeon wedi torri’r cod.

Wrth siarad am y cyhuddiadau, dywedodd Alex Salmond fod rhaid i “bawb ym myd gwleidyddiaeth dderbyn beirniadaeth o bryd i’w gilydd”.

“Dw i’n siŵr fod yr Alban eisiau symud ymlaen a dechrau siarad am wleidyddiaeth, ac yn benodol sut y mae posib mynd ymlaen â’r achos pwysicaf un – annibyniaeth i’r Alban.”

“Byddai cael mwyafrif anferth o blaid annibyniaeth yn y Senedd, gydag aelodau o’r SNP a phleidiau eraill sydd o blaid annibyniaeth fel Alba, yn newid cydbwysedd grym,” ychwanegodd Alex Salmond.

“Nid yw’r un Prif Weinidog Ceidwadol eisiau gorfod trïo curo Senedd gyfan, a’r holl boblogaeth. Byddai hynny’n sefyllfa anodd iawn, iawn i Boris Johnson.”

Goddiweddyd

Dywedodd Alex Salmond fod ei brosiect gwleidyddol newydd yn mynd i oddiweddyd Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban o ran niferoedd aelodaeth cyn bo hir.

Wrth siarad am Blaid Alba a’i hawl i gymryd rhan mewn dadleuon teledu, dywedodd: “Rwy’n hyderus y bydd yr aelodaeth ar ryw adeg yfory yn goddiweddyd nifer y Democratiaid Rhyddfrydol.”

Roedd Mr Salmond wedi dweud yn gynharach fod miloedd eisoes wedi ymuno â’r blaid.

Ychwanegodd Mr Salmond: “Rydym yn gadarn o’r farn, ar gyfradd cynnydd [bresennol], y bydd ein haelodaeth yn goddiweddyd un Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban.

“Rydym yn disgwyl, yn ystod yr wythnosau nesaf, goddiweddyd aelodaeth y Blaid Werdd a’r Blaid Geidwadol hefyd, oni bai, wrth gwrs, eu bod yn cael ymchwydd annisgwyl mewn aelodaeth.”

Dywedodd y byddai polisïau ar yr UE yn cael eu trafod yng nghynhadledd gyntaf yr ymgeiswyr ddydd Sadwrn ond ychwanegodd bod yr Alban yn “genedl Ewropeaidd”.

‘Pleidleiswyr benywaidd’

Dywedodd Mr Salmond hefyd ei fod yn credu y byddai menywod yn pleidleisio dros Blaid Alba, a hynny er gwaethaf honiadau a wnaed yn ei erbyn yn y gorffennol.

Am hynny, dywedodd: “Rwy’n credu bod y rhestr ymgeiswyr yn dangos eisoes bod llawer o ymgyrchwyr benywaidd gwych yn dod i gefnogi Alba.

“Rwy’n disgwyl y byddwn yn gweld yr un peth yn union wrth i’r ymgyrch fynd rhagddo gyda phleidleiswyr yn gyffredinol.”

  • Gallwch ddarllen barn Dylan Iorwerth ar effaith bosibl plaid newydd Alex Salmond yn Golwg yr wythnos hon, isod.

Yr Alban – peryg y blaid newydd

Dylan Iorwerth

Peth peryg ydi sylwebu o bell ar wleidyddiaeth gwlad arall, ond mae’n anodd peidio yn achos yr Alban