Peth peryg ydi sylwebu o bell ar wleidyddiaeth gwlad arall, ond mae’n anodd peidio yn achos yr Alban. Ac, oherwydd yr holl drafod ar y cyfryngau cymdeithasol, mae modd cael rhyw deimlad am ffyrnigrwydd y brwydro yno.

Ar wahân i’r gwrthdaro personol rhwng dau ffigwr mwya’ dylanwadol y cenedlaetholwyr, mae rhai o’r ystyriaethau’n berthnasol i Gymru hefyd, a’r mudiad annibyniaeth yn wynebu penderfyniadau tactegol anodd.