Alla i ddim smalio bod noson yn y theatr yn rhywbeth sy’n apelio ataf. Byddai’n well gen i wylio pobl yn gwneud ati bod yn rhywun arall adref ar y teledu. Ond dydi hynny ddim i ddweud bod rhywbeth sy’n amhwysig i fi yn, wel, amhwysig. Mae’r theatr yn rhan o’r plethwaith diwylliannol sy’n sylfaen i’n Cymreictod, yn ei atgyfnerthu a’i amddiffyn. Neu ydi hi?