Braf oedd gweld yr Eisteddfod Genedlaethol yn ailddyfeisio’r ŵyl er mwyn ei chynnal yn rhithiol.

Ond yn anffodus, ni allaf adrodd ar y profiad o ‘fynychu’r digwyddiad’ gan nad oedd gennyf yr awydd lleiaf i fynd.

A dweud y gwir, prin y gwelais eisiau’r profiad o fynychu’r Eisteddfod wedi i’r pla arwain at ei ohirio yng Ngheredigion. Sy’n beth rhyfedd, gan fy mod wedi mynd i bob un ers y nawdegau (ac un neu ddau pan oeddwn yn ddyn ifanc).

Pam?