Mae hi’n fore chwilboeth yma yn yr atig – yr haul wedi crino’r planhigion yn eu potiau, a’r awel wan yn ceisio ei gorau i gorddi’r awyr fflat. Dw i’n gwisgo gwyneb llawn colur a ffrog fawr grand, ac yn chwysu chwartiau: ie, na chi, mae’n amser Steddfod.