Mae llwyth o bethau wedi bod yn mynd drwy fy meddwl yr wythnos yma. Pryder am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd yn sgil ‘Diwrnod Rhyddid’ honedig Lloegr, pan fydd Covid-19 yn rhydd i rwygo’n ddilyffethair drwy gymunedau. Diolchgarwch bod o leiaf oedi cyn i gyfyngiadau Cymru gael eu codi – a chyfle i ailfeddwl, o bosibl, os/pan aiff pethau o chwith yn Lloegr.