Cyhoeddwyd yr ap Cymru Football gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym mis Medi’r llynedd. Ond dim ond yn y mis diwethaf rydw i wedi ei ddefnyddio a sylwi pa mor fendigedig ydy’r ap. Nid yw yn ormod i ddweud mai dyma’r datblygiad gorau ar gyfer y gêm grassroots ar lawr gwlad yng Nghymru yn fy mywyd i.

Mae hynny’n beth mawr i’w ddweud, ond mae’r ap yma gyda’r potensial i drawsnewid y gêm ar gyfer y clybiau, y Wasg, ac yn fwyaf pwysig, y bobl sydd yn awyddus i’w wylio.