Cyrhaeddodd y ddadl dros anffurfio swyddfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng nghanol Caerdydd â Jac yr Undeb enfawr y Senedd yn ddiweddar. Mae yna rywbeth swreal am weld y Senedd yn trafod rhywbeth sydd ar un wedd yn ddigon dibwys nad oes ganddi unrhyw rym yn ei gylch beth bynnag. Swyddogion Cynllunio Cyngor Caerdydd ganiataodd y cais, a go brin y bu unrhyw beryg iddo gael ei wrthod ganddyn nhw. Ynghyd â’r Amgueddfa Filwrol felltigedig, a’r brwydro parhaus a fu dros addysg Gymraeg yno â swyddo