Rydw i’n gallu enwi tîm Ipswich Town o tua 1981 o dop fy mhen.

Cooper, Burley, Mills, Wark, Osman, Butcher, Muhren, Thijssen, Mariner, Gates, Brazil.

Mae ’na fwy nag un rheswm bod gen i’r tric parti hynod ddefnyddiol yna.

Yn gyntaf, mi oeddwn i yn 14 oed, ar y pinacl o fy obsesiwn gyda phêl-droed.

Yn ail, roedd yr un tîm o un ar ddeg yn chwarae bob gêm fel rheol.

Ac yn drydydd, roedd hi’n bosib i dimau gweddol fychan gystadlu gyda’r timau cyfoethog bryd hynny.