Fel y dywedodd Tecwyn Parri unwaith; “Ti’n gwybod be’ oedd y peth gwaetha’? Oeddan nhw dal yn galw ei gilydd yn chi”. Dyna’r peth cyntaf i ddod i’m meddwl wrth wylio Eisteddfod AmGen: Mwy o’r Steddfod ar ddechrau’r wythnos ddiwethaf. Jennifer Jones oedd yn cyflwyno’r rhaglen uchafbwyntiau nosweithiol ac fe wnaeth hynny gyda’r ffurfioldeb y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan ddarlledwraig newyddion safonol. Fe laciodd pethau wrth i’r wythnos fynd rhagddi a daeth yn brofiad gwylio m