Ers nos Lun, mae posib i bobol fynd drwy ddrysau rhithwir Y Lle Celf ar faes Eisteddfod AmGen 2021 – ar gyfrifiadur, hynny yw. Cafodd yr arddangosfa rithwir eleni ei chreu gan gwmni Cynyrchiadau 4Pi ar ran yr Eisteddfod. Y beirniaid sy’n gyfrifol am ddethol y gweithiau eleni yw Gwenno Angharad, Aled Wyn Davies a Carwyn Evans, yn dilyn galwad agored am geisiadau gan artistiaid, gyda’r dyddiad cau ar 17 Mai.