Dyma ddau wirfoddolwr yn cludo sbwriel oddi ar yr Wyddfa.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud eu bod “wedi gweld niferoedd digynsail” yn ymweld â’r ardal ers y cyfnod clo cyntaf.

Bu yn rhaid cyflogi mwy o wardeiniaid i gadw trefn ar y mynydd-dir, ac mae criw gwirfoddol ‘Caru Eryri’ wedi bod yn casglu sbwriel.