Dydw i ddim yn Arch-eisteddfodwr.

Dydw i ddim yn un o’r rheiny sy’n trefnu eu gwyliau blynyddol o’r gwaith o gylch wythnos gyntaf mis Awst er mwyn sicrhau gallu codi pac ac anelu am faes carafanau’r Genedlaethol.

Does gen i ddim pâr o welingtons wedi’u neilltuo’n unswydd at ofynion goresgyn wythnos o Steddfota.

Does gen i ddim rhif ffôn y llinell docynnau ar speed-dial fy ffôn  er mwyn gwneud yn siŵr ‘mod i ymhlith y cyntaf i gael tocyn gwerthfawr i Gig y Pafiliwn.