Mae ’na rywbeth mor gyffrous a sbesial am glywed Cymraeg yn gael ei siarad unrhyw le tu fas i Gymru.
Dyw e ddim yn digwydd cymaint a ’na (yn sicr ddim digon!) ond pan glywa’ i bach o Gymraeg mewn lle anarferol, dwi’n gynnwrf i gyd yn meddwl am holl cwestiynau fi ar fin gofyn iddyn nhw.
Hynny yw, ar ôl agor y sgwrs efo’r un brawddeg bob tro: “Jiw jiw, neis clywed bach o Gymraeg!”