Peidiwch â cael fi’n rong, oce, cos dwi’n lyfio llyfra ers erioed, ers dwi’n cofio. Ma’ Mam yn deud o’n i’n acshyli obsesd efo llyfra pan o’n i’n fabi, ac o’dd hi’n goro prynu copis o llyfr Nicw Nacw i fi drosodd a throsodd cos o’n i’n mynd â fo i’r cot ac yn iwsho fo ‘tha dymi. Sugno’r tudalenna’, ac endio fyny efo bits o bapur du a gwyn a piws dros ceg fi gyd. Dwi meddwl ma’ lliw piws llyfr Nicw Nacw di hoff liw fi dal i fod, er fod o kind of fatha clais.
gan
Manon Steffan Ros