Ar ryw ystyr, doedd dim angen adroddiad y panel rhyngwladol ar newid hinsawdd. Doedd yna ddim byd hollol newydd ynddo fo; roedd o’n cadarnhau’r hyn y mae’r rhan fwya’ o wyddonwyr wedi bod yn ei ddweud ers blynyddoedd.

Mewn ffordd arall, roedd o’n hanfodol. Ym myd rhyfedd diplomyddiaeth ryngwladol, mae’n rhaid cael camau fel hyn, pan fydd llywodraethau’n derbyn sefyllfa ac yn colli eu hesgusodion. A phanel o lywodraethau ydi hwn.